Doedd gan Ann ddim salwch terfynol, meddai ei theulu wrth ITV – ond maen nhw’n credu iddi ddewis terfynu ei bywyd yn dilyn marwolaeth ei mab. O ganlyniad fe aeth i deimlo’n isel.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i’w marwolaeth, a’u bod wedi bod mewn cysylltiad gyda’r awdurdodau yn y Swistir, sydd wedi cadarnhau ei bod wedi marw ar 6 Ionawr.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu na allent “gadarnhau na gwadu os oes person yn cael ei amau, neu o ddiddordeb” yn yr achos.
Mae derbyn cymorth i farw yn gyfreithiol yn y Swistir, a gall unigolion gael cymorth i ddod â’u bywydau i ben am unrhyw reswm, cyn belled nad ydynt yn cael eu gorfodi.
Ni ddaeth teulu Anne i wybod am ei bwriad i farw, nes iddynt dderbyn llythyrau ffarwel ganddi o’r Swistir drwy’r post.