Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Caleb mai ei fwriad gwreiddiol oedd “gwneud fy ngorau yn y [gystadleuaeth] bas bariton, ac wedyn oedd cael llwyfan ac ennill hwnna yn fraint yn ei hunain”.
Roedd ei ragbrofion ar gyfer y gystadleuaeth bas bariton ddydd Mawrth, yna ar y llwyfan ddydd Mercher ac yn dilyn ennill y gystadleuaeth cafodd ei wahodd i gystadlu yn yr Osborne Roberts ddydd Iau.
“Roedd e’n hollol annisgwyl cael y cyfle i gystadlu yn yr Osborne Roberts, sy’n gystadleuaeth mor anrhydeddus a chyfle newydd i gystadlu ar lefel yn uwch.”
Ond ag yntau’n feddyg yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg – ac i fod i dderbyn ei sesiwn anwytho i fod yn ddoctor pediatrig ddydd Gwener – dywedodd nad oedd wedi cymryd dydd Iau a Gwener i ffwrdd o’r gwaith.
Ar ôl taro mewn i un o’i gyn gyd-weithiwyr ar y Maes, fe lwyddodd i gael gweddill yr wythnos i ffwrdd, ac roedd yn medru cystadlu i ennill yr ysgoloriaeth.
Dywedodd fod ennill y wobr goffa yn “anrhydedd mawr”.