Mae HCC wedi cael cyfnod heriol yn sgil problemau staffio mewnol.
Y llynedd, mi wnaeth y cyn-brif weithredwr, Gwyn Howells, ymddiswyddo wedi proses ddisgyblu.
Yn ôl bwrdd HCC, byddai wedi cael ei ddiswyddo pe na bai wedi ymddiswyddo.
Yn ôl Jose Peralta – oedd ddim yn gweithio i HCC yn ystod y cyfnod hwnnw – mae ganddo’r sgiliau arweinyddiaeth i symud y corff ymlaen ac adfer hyder ffermwyr yn eu gwaith.
“Mae gen i brofiad helaeth o arwain cwmnïau oedd yn cyflogi miloedd o bobl, a mae gen i steil arwain clir iawn sy’n cyfuno eglurder a chefnogaeth – ac adran adnoddau dynol gref.”
Ers dechrau ar ei swydd, mae’n dweud nad ydy o wedi gweld unrhyw dystiolaeth o bryderon yn ymwneud â gallu HCC i wneud ei waith.