Erbyn hyn mae Ioan yn teithio i Fanceinion yn gyson i ymarfer yn y Ganolfan Seiclo Cenedlaethol, gan ddilyn trywydd cewri’r gamp fel Mark Cavendish, Chris Hoy ac wrth gwrs Geraint Thomas.
Mae wedi ennill teitlau drwy Gymru a Phrydain, a fis diwethaf enillodd aur gyda thîm Prydain ym Mhencampwriaethau Iau Ewrop.
Ei darged nesaf yw cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.
I Rachel Draper, bydd siwrne Ioan i gyrraedd y trac a’r anaf ddifrifol a gafodd, yn ei alluogi i oroesi’r sialensau sy’n dod nesaf.
“Mae’n dda iawn am gymryd anawsterau fel profiadau dysgu, rhywbeth sy’n anodd i berson ifanc”, meddai.
“Pryd bynnag mae pethau wedi mynd o chwith iddo, mae wedi bod yn dda iawn am fod yn wrthrychol iawn, gan ei gymryd fel rhywbeth i ddysgu.”
Ychwanegodd: “Peidiwch camddeall, mae’n gystadleuol iawn a bydd eisiau ennill pob ras. Ond os nad yw’n llwyddo, mae’n gwybod bod mwy i ddod yn y dyfodol.”