Mewn ymateb dywedodd Cymdeithas yr Iaith bod angen i’r llywodraeth “ddeffro”.
“Mae’n anodd llyncu sôn am ‘gynnydd’ o ystyried ffigurau’r Cyfrifiad, a ddangosodd gwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn 2011 ac eto yn 2021.”
Ychwanegodd y gymdeithas bod twf mewn addysg Gymraeg wedi arafu ers datganoli, wrth i’r llywodraeth “fethu eu targedau eu hunain dro ar ôl tro”.
“Mae pobl Cymru wedi gorfod brwydro am bob peth sydd ganddon ni, ac os ydyn ni am ddeffro’r llywodraeth gysglyd a hunanfodlon yma, mae’n amlwg y bydd rhaid parhau i frwydro.”
Nid protestio a phobl yn mynnu addysg Gymraeg sydd hefyd wedi cyfrannu, yn ôl y prif weinidog, ond “pobl tu fewn i’r Blaid Lafur yn brwydro hefyd”.
“Y Blaid Lafur sydd wedi bod yn arwain yn y llywodraeth dros y 25 mlynedd diwethaf, ac hefyd wedi bod yn arwain yn llywodraeth leol yn nifer o’r ardaloedd hynny ac ma’ pobl tu fewn i’r Blaid Lafur wedi bod yn brwydro hefyd,” ychwanegodd Ms Morgan.
“Felly beth sydd wedi digwydd yw bod yr adain yna o’r Blaid Lafur wedi cyflawni ac wedi delifro,” meddai.
Ychwanegodd ein bod ni’n gweld “gweddnewid” yn yr ymateb tuag at yr iaith ar draws Cymru.