Dros bum mlynedd ers llofruddiaeth Mike O’Leary, mae ei deulu’n ymgyrchu dros Gyfraith Helen 2: Atal Anffurfio Corff (Helen’s Law 2: Stop the Desecration).
Mae’n galw am ddiwygiad o gyfreithiau claddu hynafol ac, yn benodol, yn galw am gyflwyno trosedd newydd o anffurfio corff.
Yng ngorsaf drenau Caerfyrddin, ar ddechrau taith y teulu i Lundain i gyfarfod â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, dywedodd Ms Rees eu bod yn dal i gael trafferth dod i delerau â’r hyn ddigwyddodd.
“Mae colli anwyliaid i lofruddiaeth yn ddigon ofnadwy fel mae hi. Pan chi heb gael corff i ffarwelio gyda, mae e’n waeth byth”, meddai.
“Mae gyda sawl gwlad arall fel America a’r Almaen y ddeddf yma yn bodoli, maen hen bryd i ni gael un yn y wlad hyn.”
Ychwanegodd bod yr hyn mae’r teulu wedi ei brofi yn “hunllef llwyr”.
“Mae beth nath e [Andrew Jones] i gorff Mike, ar ôl ei ladd e, yn ofnadwy a’n gweithio ein pennau ni bob dydd.
“Welon ni ar y CCTV, ac mae hwnna dal yn ein meddyliau ni, bod e wedi defnyddio forklift truck i godi corff Mike i boot y car, wedi rhoi Mike ar bentwr o pallets o’dd e wedi eu rhoi mewn lle ar y dydd Sadwrn cynt, a arhosodd e lan dros nos i dano’r tân i sicrhau bod dim byd ar ôl gyda ni.”