Mae Mr Ahir yn cyfaddef mai un o sialensiau mawr ei gyfnod fel Llywydd y Llys oedd helynt y Fedal Ddrama y llynedd, pan gafodd y wobr ei hatal.
“Edrych nôl, rwy’n hapus â sut ‘naethon ni ddelio â’r mater,” meddai.
“Roedden ni yn defnyddio ein systemau mewnol i neud yn siŵr fod y bwrdd yn ei gyfanrwydd yn ymwybodol o’r penderfyniad ac roedden ni yn cydweithio â’r beirniad.
“Doedd dim lot mwy gallen ni ‘di ‘neud.”
Mae’n dweud fod yr Eisteddfod wedi datblygu canllawiau cystadlaethau a bod hynny wedi bod ar waith ers tro, ac yn edrych ar wahanol elfennau o gystadlu.
“Ma’r elfennau newydd yn rhoi sicrwydd arall a chefnogaeth arall i feirniaid. Hefyd heddi’ ma’ 20 o geisiadau yn y Fedal Ddrama.
“Mae hyn yn dangos nad yw’r stori wedi tanseilio ymrwymiad pobl sy’ ishe ennill y fedal.”
Ag yntau yn ei Eisteddfod olaf fel Llywydd y Llys, ei gyngor i’w olynydd ydy “mynd ar gwrs diplomataidd i ddechrau”.