26.6 C
New York
Saturday, September 27, 2025

Buy now

spot_img

Mam bachgen fu farw wedi mynnu y byddai ‘byth yn lladd fy mab’


Clywodd y rheithgor fod Shannon Ives wedi dweud wrth yr heddlu mewn cyfweliad fod Ethan mor denau nes y gallai deimlo ei esgyrn.

Wrth ddisgrifio sut y gwnaeth hi gymryd golwg iawn ar ei mab ar ôl iddo gwympo ar 13 Awst, dywedodd: “Roedd yn teimlo fel pe bai’n sgerbwd.”

Sylwodd hefyd ar farciau ar gorff ei mab, meddai.

“Roedd yna ychydig o gleisiau ar ei gefn… ar ei ochr dde, ychydig uwchben ei glun.”

Sylwodd hefyd ar gleisiau ar ei goes chwith, meddai.

“Ro’n i wedi synnu, ro’n i’n ofni bod rhywun wedi bod yn ei gam-drin,” pan nad oedd hi yno, meddai.

Dywedodd ei bod wedi gofyn i’w rhieni “o ble maen nhw i gyd yn dod?”

“Y cyfan oedd ganddyn nhw i’w ddweud oedd ‘bob tro mae’n sefyll i fyny, mae’n cwympo’,” ac yn dod allan mewn cleisiau, meddai.



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles