27.7 C
New York
Friday, September 19, 2025

Buy now

spot_img

Medal Aur i Hawys yng Ngemau Trawsblaniad y Byd


Mae Hawys a’i theulu’n seiclwyr brwd ac wrth dyfu i fyny, roedd taith feics deuluol yn ddigwyddiad rheolaidd.

Meddai Nia: “O’n ni’n seiclo fel teulu dros Covid, tair gwaith yr wythnos . O’n ni’n neud byti 50 milltir yr wythnos. Oedd e ddim problem.”

Ond fe sylwodd Nia ar rai newidiadau yn Hawys wnaeth wneud iddi ddechrau poeni am ei merch yn ystod cyfnod y pandemig.

Eglurodd: “Dechreuodd hi arafu ar y beic, newid deiet, doedd hi ddim yn hoffi blas squash i gymharu â dŵr, a hefyd roedd ei choes hi’n chwyddo.”

Ar y pryd doedd ei doctoriaid ddim yn poeni’n ormodol. Ond fe aeth ei symptomau’n waeth ac fe anfonwyd Nia i’r ysbyty am brofion.

Meddai Nia: “O fewn tair awr yn yr ysbyty dyma nhw’n deud ‘mae ganddoch chi ferch sâl iawn yn fan hyn’, roedd blood clots yn ei bladder hi, doedd ei harennau hi ddim yn gweithio.”

Ar ôl chwech wythnos yn yr yr ysbyty, daeth Hawys adref gan dderbyn triniaeth dialysis bob nos yn ei chartref o fis Ionawr hyd at fis Rhagfyr 2021. Derbyniodd Hawys aren gan ei mam ar 7 Rhagfyr 2021.

Wrth adlewyrchu ar y cyfnod anodd yma’n eu bywydau, meddai Nia: “Ni’n prowd iawn ohoni. Yn enwedig beth mae hi wedi bod drwyddo yn blentyn 12 oed.

“Eich bywyd chi’n troi upside down fel maen nhw’n dweud, a cholli dwy aren a gorfod ymdopi efo dialysis am flwyddyn, ac wedyn paratoi eich corff chi i dderbyn aren newydd. Buon ni’n ffodus iawn fod fy aren i yn beth maen nhw’n ei alw’n compatible.”



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles