Mae stori creu’r albwm honno – Definitely Maybe – yn chwedlonol erbyn hyn.
Cafodd sawl cynnig ei roi ar recordio caneuon (mewn stiwdio yng Nghymru… gweler isod) a chymysgu’r traciau, gan newid y tîm er mwyn ceisio ail-greu sŵn byw’r band. Doedd neb yn llwyddo ac roedd arian yn dechrau rhedeg allan.
Roedd Owen Morris, o Glyncorrwg, ger Port Talbot, wedi dechrau ar ei yrfa fel peiriannydd sain yng Nghaergrawnt pan oedd o’n 16 oed. Roedd o hefyd wedi gweithio gyda Marcus Russell a rhai o’r artistiaid roedd o’n eu rheoli. Felly fe gafodd o’r gwaith o geisio achub y caneuon.
Drwy ail-gymysgu, ail-recordio a defnyddio technegau gwahanol fe lwyddodd i greu’r ‘sŵn mawr’ sy’n cael ei gysylltu gydag Oasis. Roedd y band a’r label wrth eu boddau ac aeth Definitely Maybe ymlaen i werthu 15 miliwn copi.
Aeth Owen Morris, sydd bellach yn byw yn Costa Rica, yn ei flaen i weithio gyda bandiau byd-enwog eraill fel The Verve, The Fratellis ac Ash.
Fe wnaeth o hefyd gael y gwaith o gynhyrchu dau albwm nesaf Oasis, (What’s the Story) Morning Glory? a Be Here Now… ac mae ‘na gysylltiad arall Cymreig gydag albyms Oasis hefyd.