Mi fydd gwaith dadgomisiynu yn parhau tan o leiaf ddiwedd y ganrif, medd gweithwyr, ac mae’r sector eisoes yn cefnogi 500 o weithwyr yng Nghymru.
Ond gyda chwestiynau o hyd am ddyfodol unrhyw adweithydd niwclear newydd ym Môn, mae Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Niwclear y Senedd, Vaughan Gething yn dweud bod disgwyl mwy o fanylion am ddyfodol adweithyddion bychain ddiwedd yr haf.
“‘Da ni’n disgwyl erbyn diwedd yr haf y bydd cyhoeddiad am y genhedlaeth nesaf o adweithyddion bychain,” meddai.
“Dwi’n eithaf positif ac yn obeithiol,” meddai’r cyn-brif weinidog.
“Mae ‘na wahaniaeth rhwng yr adweithyddion bychain hyn o gymharu â rhai mawr fel Hinkley.
“Mae Hinkley yn cymryd tua 10-12 mlynedd i’w adeiladu a does gennym ni ddim y gweithlu yma yn y Deyrnas Unedig i neud hynny ar yr un amser.”