Dywedodd Jemma Gough bod ateb y perchennog wedi gwneud iddi deimlo “fel dieithryn” ac ofni bod dim croeso iddi ym Manceinion.
Fe gysylltodd y cyfeillion â chwmni Airbnb, sydd wedi atal y perchennog o’r wefan, ond dywed Ms Gough ei bod yn dal yn chwilio am atebion.
“Rwy’ mor falch o fod yn Gymraes a dyna pam wnes i benderfynu i siarad am beth ddigwyddodd i ni,” ychwanegodd.
“Rwy’ eisiau herio’r safbwyntiau cul yma.”
Dywedodd llefarydd ar ran Airbnb: “Does dim lle ar Airbnb i anffafriaeth, gan gynnwys ar sail cenedligrwydd.
“Gynted ag y daeth y gŵyn i’n sylw, fe wnaethon ni ymateb i’r gwestai i gynnig cefnogaeth ac atal y gwesteiwr tra’n ymchwilio i’r mater yma.”