Mari Emlyn: “Gwyddwn fy mod mewn dwylo diogel o’r cychwyn yng nghwmni’r llenor penigamp hwn er nad dyma’r math o nofel sydd fel arfer at fy nant.
“Strwythurir y nofel yn glyfar iawn fel drama glasurol Shakespearaidd gyda’i phump act, er bod yr awdur hwn, diolch i’r drefn, yn gwrthod y demtasiwn i gynnwys y dénouement, gan gyfiawnhau hynny ar y diwedd drwy ddweud, ‘Nid yw bywyd go-iawn yn dwt.’
“Mae’r nofel yn daith drwy amser gan rychwantu bron i ddwy ganrif ac mae’n batrwm o sut i ddefnyddio stôr eithriadol o ymchwil i greu nofel hanesyddol ffantasïol heb i’r ymchwil hwnnw lyncu’r stori… Mae Ozymandias yn llwyr haeddu Gwobr Goffa Daniel Owen.”
Haf Llewelyn: “Mae hon wedi bod yn gystadleuaeth arbennig eleni. Hynod felly yw dweud bod ‘Anfarwol’ wedi neidio i’r brig, ac aros yno o’r darlleniad cyntaf un.
“Rydym yng nghwmni awdur arbennig yma, a theimlaf hi’n fraint fod ymysg y bobl gyntaf i gael darllen y gwaith hwn.
“O’r dechrau gallwn ymlacio, gan wybod na fyddai Ozymandias yn baglu, a fy mod yng nghwmni awdur hyderus, saernïwr stori gelfydd a dewin geiriau sy’n trin ein hiaith yn goeth ac ystwyth.
“Mae hon yn nofel lwyddiannus iawn a bydd yn ychwanegiad gwerthfawr tu hwnt i fyd y nofel Gymraeg. Llongyfarchiadau mawr i Ozymandias ar ddod i’r brig mewn cystadleuaeth gref.
“Mentraf ddweud hefyd fod hon yn dod i blith goreuon enillwyr Gwobr Goffa Daniel Owen dros y blynyddoedd.”