22.7 C
New York
Wednesday, September 24, 2025

Buy now

spot_img

Person yn yr ysbyty ar ôl i gwch daro creigiau ger arfordir Ynys Môn


Fe wnaeth y gwasanaethau brys ymateb i ddigwyddiad oddi ar arfordir Ynys Môn brynhawn Mawrth yn dilyn adroddiadau i gwch daro creigiau.

Cafodd yr unigolyn oedd ar fwrdd y cwch ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd yn ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau eu bod wedi ymateb i adroddiadau o gwch yn taro’r lan yn ardal Ynysoedd y Moelrhoniaid (The Skerries) oddi ar arfordir Ynys Môn tua 16:00.

Bu Tîm Achub Gwylwyr y Glannau Cemaes, bad achub RNLI Caergybi a chychod a oedd gerllaw yn rhan o’r ymateb.

Cafodd yr unigolyn ei achub gan fad achub cyn ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty.

Y gred yw bod y cwch hwylio, a oedd yn 8m o hyd, wedi ei ddinistrio neu wedi suddo.



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles