Cyn ei haraith, fe ddywedodd Ms Fychan y byddai’r celfyddydau, diwylliant a chwaraeon yn “ganolog i uchelgais llywodraeth Plaid Cymru i greu Cymru iachach a chyfoethocach”.
“Nid yn unig yw hynny’n golygu mwy o gyllid, ond bydd dull newydd gan y llywodraeth er mwyn sicrhau bod diwylliant wrth wraidd popeth a wnawn,” meddai.
Yn ôl Plaid Cymru, mae diwylliant yn chwarae “rôl hanfodol o ran lles, twf economaidd a chydlyniant cymdeithasol” ac fe gyfeiriodd y blaid at adroddiad Cyngor Celfyddydau Cymru ar effaith economaidd y celfyddydau yng Nghymru, dolen allanol.
Roedd yr adroddiad yn honni, am bob £1 a dderbyniwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, aeth £2.51 yn ôl i’r economi.
Ychwanegodd Ms Fychan, a oedd arfer gweithio i Amgueddfa Genedlaethol Cymru: “Diwylliant yw calon Cymru”.
“Dyma sut rydym yn adrodd ein straeon, yn gwarchod ein hiaith, yn dathlu ein hanes, ac yn mynegi ein gwerthoedd.”
Mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26, dolen allanol wedi adfer y cyllid ar gyfer diwylliant, y celfyddydau a chwaraeon yn ôl i lefelau 2023-24.
Ond fe ddaw hyn ar ôl cyfnod o doriadau i’r sector, wrth i’r llywodraeth flaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen fel y gwasanaeth iechyd.