21.2 C
New York
Monday, September 22, 2025

Buy now

spot_img

Profiad ‘anhygoel’ mynd â’r Gymraeg i lwyfan Fringe Caeredin


Bob blwyddyn mae perfformwyr Cymraeg yn dod i brifddinas yr Alban ac yn ymuno â mwy na 3,500 o sioeau gan berfformwyr ledled y byd yn amrywio o gomedi i gabaret, i berfformwyr stryd a’r gair llafar.

Mae’r Harebell Tellers yn perfformio straeon llên gwerin a mytholegol trwy gelfyddyd draddodiadol o adrodd straeon.

Mae Ffion Phillips ac Ailsa Dixon, sy’n dod o’r Alban, yn plethu ieithoedd Cymru a’r Alban i’w sioeau.

Dywedodd Ffion fod yna bobl yn y Fringe – yr ŵyl gelfyddydol fwyaf yn y byd – sydd erioed wedi clywed yr iaith Gymraeg o’r blaen.

“Dwi’n caru plethu straeon mewn ffordd fel bo siaradwyr Saesneg yn y gynulleidfa gobeithio’n gallu dilyn be dwi’n ei ddweud – mae’n dwyn nhw i mewn i fyd y stori.

“Ac i’r siaradwyr Cymraeg yn y gynulleidfa mae ‘na gysylltiad hyfryd yn digwydd.”



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles