Yn ôl cyn arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd John Davies, mae yna heriau enfawr yn wynebu ardaloedd gwledig yn sgil newidiadau demograffeg.
“Mae yna ddiboblogi yn digwydd, mewn un ystyr, ond y demograffeg yw e.
“Mae hon yn her nid yn unig yn y cyd-destun gwledig ond ar draws y bwrdd.
“Mae’n poblogaeth ni yn heneiddio, mae’n ysgolion ni yn lleihau ac yn gwacáu, ac mae’n ysbytai a meddygfeydd yn orlawn oherwydd mae’r demograffeg yn newid.
“Mae pobl dros 50 yn dod lawr yma i rannol ymddeol. Ni’n colli’r egni ifanc yna i greu bwrlwm a economi sydd yn ffynnu yn wledig.
“Mae’r cyfan yna yn cael ei golli wrth iddyn nhw fynd i’r dwyrain.”
Yn ol ffigurau’r cyngor,, dolen allanol mae poblogaeth ysgolion cynradd ardal y Preselau wedi lleihau bron i 19% ar gyfartaledd rhwng 2015 a 2024, a 6.6% yn ardal Dinbych y Pysgol yn ystod yr un cyfnod.
Ar gyfartaledd, mae poblogaeth ysgolion Sir Benfro wedi lleihau 12% ers ad-drefnu llywodraeth leol.
Mae disgwyl i nifer y plant yn Sir Benfro rhwng 0-15 leihau 11.7% dros y 10-15 mlynedd nesaf.
Cadarnhaodd Cyngor Sir Caerfyrddin bod yna 17 o ysgolion yn y sir honno gyda llai na 50 o blant.
Mae rhagolygon Llywodraeth Cymru yn awgrymu y bydd yna leihad o bron i 50,000 yn nifer i disgyblion ar draws Cymru erbyn 2040, ac mae’r gyfradd geni wedi bod yn lleihau ers 2010.
Cafodd y sefyllfa ei disgrifio fel “her frawychus”, dolen allanol gan Swyddfa Archwilio Cymru yn 2021.