18.4 C
New York
Sunday, September 21, 2025

Buy now

spot_img

Rhybudd am donnau anarferol o fawr dros Ŵyl y Banc


Mae’r RNLI yn rhybuddio y dylai pob un a fydd yn mynd yn agos i’r môr a’r arfordir dros y dyddiau nesaf gymryd gofal.

“Os ydych chi’n nofiwr mae risg uwch o gerrynt terfol a thonnau, os ydych chi’n cerdded ar hyd yr arfordir – yn enwedig yn ystod llanw uchel – gallai dŵr lifo drosodd i ardaloedd na fyddai fel arfer, ac wrth gwrs os ydych chi’n defnyddio cwch, caiac, padlfwrdd neu unrhyw beth felly gall yr amodau olygu bod llawer mwy o berygl i chi,” meddai Mr Cousens.

Daw’r rhybudd wedi i nifer orfod cael eu hachub yn ddiweddar – yn eu plith nofwyr a syrffwyr.

Rhwng 9 a 15 Awst cafodd yr RNLI eu galw i nifer o ddigwyddiadau ar dri thraeth yn Sir Benfro.

Bu’n rhaid achub 14 o bobl ar draeth Niwgwl mewn un diwrnod ar ôl iddyn nhw fynd i drafferthion mewn ceryntau terfol.

Ar draeth Freshwater West, cafodd 16 o bobl eu hachub a bu’n rhaid rhoi cymorth i dros 40 mewn un diwrnod.



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles