“Dwi’n lwcus iawn, iawn a dwi ‘di cael popeth yn glir, dim math o driniaeth o fath yn y byd,” meddai.
“Dwi’n lwcus ofnadwy bo’ fi wedi dal y canser yn gynnar a dyna’r gyfrinach – mae’n bwysig ‘neud y sgrinio ‘ma, dyna sut nes i ddod o hyd iddo fo.
“Dwi ddim eisiau dychryn neb ond o’n i’n meddwl mai un mewn tri fyddai’n cael diagnosis canser, ond mae o wedi mynd fyny i un o bob dau – felly mae o yma, mae o reit o flaen ein trwynau ni, ‘da ni gyd yn mynd i ‘nabod rhywun sy’n cael canser.”
Esboniodd fod gwneud prawf sgrinio drwy’r post wedi cyflymu’r broses o dderbyn triniaeth hefyd.
“Fyswn i ‘di gallu mynd at y doctor, ond drwy fynd y ffordd yna fysa fo wedi cymryd tri, pedwar mis i mi gael colonoscopy – ond drwy ei wneud o fel hyn o’n i’n cal colonoscopy o fewn tair wythnos, ac mae hynny’n andros o wahaniaeth.
“Mewn tair wythnos, stage dau o’n i – ond mewn tri, pedwar mis fyswn i wedi gallu bod yn stage tri â phroblemau mwy a gorfod cael cemotherapi ac ati.”