Yr actor sy’n chwarae rhan Richard Burton yn y ffilm yw Harry Lawtey o Loegr, ac mae Marc yn cyfiawnhau ei benderfyniad i beidio castio actor o Gymru:
“Roedd gyda ni awydd i gastio Cymro i chwarae rhan Richard a pe bydden ni wedi ffindio fe yn sicr fydden ni wedi castio fe.
“Yn y gorffennol mae yna actorion sy’n dod i’r meddwl, falle Matthew Rhys neu Michael Sheen ond dwi ddim yn siŵr fod yr actor yna ar gael ar y foment. Falle bod ni ddim wedi ffeindio fe ac falle bod e mas yna ac os hynny, fi’n ymddiheuro.
“Ryw fath o dalu ‘nôl ‘nes i o safbwynt y ffaith bod Harry yn Sais, oedd castio Daniel Evans sy’n Gymro fel y boi sy’n cyfarwyddo fe yn Stratford, achos mae Daniel nawr wrth gwrs yn un o gyfarwyddwyr artistig y Royal Shakespeare Theatre.”