Astudiodd yr efeilliaid Adrian a Łukasz, 18, yr un pynciau ar gyfer eu Safon Uwch a maen nhw wedi cael cynnig i astudio yr un cwrs ond mewn prifysgolion gwahanol.
Mae gan y brodyr o Gasnewydd yr un diddordebau ac fe wnaethon nhw adolygu gyda’i gilydd ar gyfer eu harholiadau.
Mae nhw’n disgwyl canlyniadau Safon Uwch ym Mathemateg, Mathemateg Bellach, Cyfrifiadureg a Ffiseg.
Roedd yr arholiadau yn gyfnod “heriol” yn ôl Adrian.
“Roedden ni’n medru astudio gyda’n gilydd ac felly roedd modd i ni helpu ein gilydd os nad oedd un ohonom ni’n deall rhywbeth.”
Wrth ddisgwyl eu canlyniadau, dywedodd Łukasz ei fod yn teimlo’n “nerfus ond yn llawn cyffro hefyd”.
Mae’r brodyr wedi derbyn cynnig i astudio ym mhrifysgolion Bryste a Chaerfaddon er mwyn astudio electroneg a pheirianneg electroneg.
“Rwy’n edrych ymlaen i weld pa raddau rydw i wedi cael ond dwi hefyd angen sicrhau fy mod i’n llwyddo i gyrraedd y graddau sydd eu hangen er mwyn mynd i’r brifysgol,” ychwanegodd Łukasz.
Fel arfer mae disgyblion yn cael gwybod os ydyn nhw wedi llwyddo i gael lle mewn prifysgol erbyn 08:00.