Mae Sarah Lianne Lewis wedi ennill Medal y Cyfansoddwr yn Eisteddfod Wrecsam.
Mewn seremoni arbennig nos Sadwrn, cododd y pafiliwn ar eu traed i gymeradwyo’r cyfansoddwr buddugol am ei darn ‘Cysgodion Bywiog’.
I gydnabod canmlwyddiant ers geni Islwyn Ffowc Elis, un o feibion amlycaf ardal Wrecsam, thema Medal y Cyfansoddwr eleni oedd Cymru Fydd.
Dywedodd un o’r beirniaid, Richard Baker, bod darn Sarah yn “theatrig iawn gyda naratif cryf, ac mae’r ddeialog yn eglur iawn rhwng y deunydd sydd yn cynrychioli’r galar, a’r deunydd sydd yn cynrychioli’r gobaith.”