Hefyd yn sgwrsio gyda BBC Cymru ar faes yr Eisteddfod, dywedodd Geraint Roberts o Ystradgynlais ei fod yn poeni am y sefyllfa.
“Rwy’n gadeirydd ar Clera – cymdeithas offerynnau traddodiadol Cymru – a be’ ni’n gweld yw bod llai a llai o blant yn cael cyfleoedd.
“Er enghraifft, mae yna ysgolion yn dysgu sut i ganu offerynnau ac mae dyn yn teimlo bod y toriadau i’r celfyddydau… yn golygu taw pobl sydd ag arian sy’n gallu dod o hyd i gyfleoedd.”
Ychwanegodd Sam Robinson sy’n byw yng Nghorris: “Fel bardd a cherddor, dwi’n llawn ymwybodol o ba mor bwysig ydy’r celfyddydau i’n hiechyd ni fel unigolion ac fel cymunedau a chenedl gyfan.
“Heb gefnogaeth gyhoeddus, fydd o’n dod yn fwyfwy anodd i gerddorion ac artistiaid wneud bywoliaeth.
“A ‘dan ni’n mynd i deimlo effaith hynny fel cenedl a bydd yna llai o gyfleoedd i bobl datblygu’r crefftau.
“Dwi’n ofni byddwn ni’n gweld diwylliant Cymraeg yn pylu o achos hynny.”