21 C
New York
Sunday, August 10, 2025

Buy now

spot_img

Seren Wrecsam am wneud ei thad yn falch wrth baratoi am ffeinal


Mae tipyn wedi newid i Lili Mai Jones ers i’w thad farw’n sydyn bedair blynedd yn ôl.

Mae’r chwaraewr ifanc wedi bod yn chwarae rhan allweddol yn un o gyfnodau mwyaf llwyddiannus Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Bydd un o uchafbwyntiau ei gyrfa ifanc yn siŵr o ddod ddydd Sul, wrth i Wrecsam herio Caerdydd yn ffeinal Cwpan Cymru.

Yn rhan o’r clwb ers yn chwech oed, mae Lili, 19, bellach yn cydbwyso bywyd prifysgol â chwarae pêl-droed ar lefel led-broffesiynol.

“Mae’r cydbwysedd yna bron yn amhosib,” cyfaddefa Lili, sy’n astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor, ac sydd hefyd wedi cael blas ar sylwebu.

“Dwi’n ‘neud lot o ddreifio rhwng Bangor a Wrecsam. Dwi ‘nôl a ‘mlaen tair gwaith yr wythnos o leiaf.

“Mae yn anodd, ond ar yr un pryd, mae’n ddau beth dwi rili isio gwneud.

“Dwi rili isio astudio’r Gymraeg a dwi rili isio chwarae pêl-droed dros Wrecsam.”



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles