“Doeddet ti ddim yn arfer gweld llawer o bobl ifanc yn y cyfryngau, ond dwi ‘di gweld mwy o bobl yn gwneud stwff rŵan, ac mae ‘na don o bobl ifanc a lleisiau ifanc yn dweud ‘mae hyn yn anghywir, ‘dan ni angen newid’.
“Ac er fod rhai pobl yn dweud ‘mae’r plant am ei ddatrys o i gyd’ – na, dydyn ni ddim, achos mae hynny’n bwysau aruthrol i’w roi ar blant. Ond gallwn ni helpu i achosi newid.
“Y busnesau, yr oedolion a’r cenedlaethau hŷn sydd angen helpu. Does gennyn ni ddim y pŵer i newid deunydd pecynnau cynnyrch cwmnïoedd mawr – yn y pendraw, nhw sydd yn gwneud y penderfyniadau.
“Rŵan mae’r ymgyrch yn nwylo’r diwydiant. Mae cwmnïoedd yn dweud ein bod ni bendant wedi ei gwneud hi’n heriol iddyn nhw, ac mae’n rhaid iddyn nhw weithio’n gyflymach. Ond mae newid yn gallu cymryd amser hir.
“Welwn ni lle eith y ffilm, achos fydd hynny’n gyffrous iawn, a gobeithio gweld pa newid fydd yn dod o hynny.
“Dwi’n edrych ymlaen at y dyfodol.”