Mae Gordon Green, y dyn a sefydlodd y ras enwog dyn yn erbyn ceffyl yn Llanwrtyd, wedi marw yn 90 oed yn dilyn salwch byr.
Trefnodd Mr Green y ras yn 1980 ar ôl sgwrs mewn tafarn yn trafod a oedd dyn neu geffyl yn gyflymach wrth groesi tir mynyddig.
Mae’r ras 22 milltir yn Llanwrtyd ym Mhowys wedi digwydd yn flynyddol – ac eithrio cyfnod Covid – ers hynny.
Dim ond pump o bobl sydd wedi llwyddo i gyflawni’r gamp – tri ohonynt yn y pedair blynedd diwethaf.
Yn gynharach eleni yr athletwr o Abertawe, Dewi Griffiths enillodd y ras – fe yw’r Cymro cyntaf i redeg yn gynt na cheffyl yn y ras enwog.
Dywedodd merch Mr Green, Susannah Kingdon, ei bod hi a’i theulu yn “anhygoel o falch o’r gwaith y mae fy nhad wedi’i wneud yn y gymuned”.