Fe gaeodd drysau’r dafarn “eiconig” ym mis Medi.
Yna, penderfynodd aelodau’r gymuned ddod ynghyd a ffurfio corff o’r enw Menter y Ring, gan obeithio prynu’r les a throi’r dafarn yn un gymunedol.
Roedd yr ymateb yn “anghredadwy deud y gwir”, meddai Llio Griffiths.
“‘Da ni dal methu credu faint o fuddsoddwyr sy’ ‘di bod a’r holl ymdrech gan bawb.”
Yn ôl y fenter mae dros 900 o bobl wedi buddsoddi – y rhan fwyaf o Wynedd, ond mae bron i 300 ohonyn nhw o du hwnt i’r ardal leol.
“Os ydy pobl yn gofyn i chdi ‘o le tin dod?’ A ti’n d’eud ‘Llanfrothen’ – ‘o da chi’n gwbod y Ring!?’ Mae’n eiconig,” meddai Llio.
“Dim ots os ti’n wyth neu’n 80, ma’r Ring yn cynnig rhywbeth i bawb – dim ots be ‘di dy gefndir di.
“Mae’n rhywle ma’ pawb yn gwatchad allan am ei gilydd.”