20.7 C
New York
Sunday, September 21, 2025

Buy now

spot_img

Tollau Trump yn ‘sefyllfa drist iawn’ i fusnes Cymreig


Ar ôl wythnosau o ddisgwyl – mae gwledydd ar hyd a lled y byd bellach yn gwybod faint o dollau fydd ar allforion i’r Unol Daleithiau.

Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi cyhoeddi y bydd toll o 10% ar nwyddau sy’n cael eu mewnforio o Brydain – ac y bydd 20% o dollau ar unrhyw nwyddau o wledydd yr Undeb Ewropeaidd o ddydd Sadwrn ymlaen.

Mae pob gwlad ar draws y byd yn wynebu isafswm o doll o 10% gyda rhai gwledydd yn cael tollau llawer llymach o hyd at 50%.

Aeth Donald Trump ymlaen i egluro bod gwledydd fel China, Mecsico a Chanada yn cael tollau uwch am nad ydyn nhw wedi bod yn “deg” gyda’r Unol Daleithiau gan addo ei etholwyr bod “oes aur” o’u blaenau.

Mae arweinwyr gwledydd ar hyd a lled y byd wedi ymateb i’r cyhoeddiad – gyda Llywodraeth San Steffan yn datgan eu bod am barhau gyda’u trafodaethau i sicrhau cytundeb masnach fyddai’n lleihau’r tollau.

Yn y cyfamser mae ffederasiwn busnesau’r CBI yn dweud bod hyn yn “bryderus iawn i fusnesau” gyda phennaeth Siambr Fasnach Prydain yn rhybuddio bod “pawb ar eu colled ac y bydd archebion yn cwympo, prisiau yn cynyddu a’r galw economaidd am nwyddau byd eang yn gwanhau”.

Mae gweinidog economi Cymru, Rebecca Evans, yn bwriadu cwrdd â chynrychiolwyr o’r CBI a Ffederasiwn y Busnesau Bach fore Gwener i drafod oblygiadau’r tollau.



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles