Fe ddywedodd cyn-chwaraewr rygbi Cymru Chris Horsman mai ansicrwydd yw’r brif broblem ar y funud.
“Os edrychwn ni 18 mis yn ôl, pan ddechreuodd yr arweinyddiaeth newydd dywedon nhw y byddai ganddyn nhw strategaeth erbyn 2024” a’u bod “am gadw pedwar tîm, ac rydym am symud ymlaen”.
“Nawr, 18 mis yn ddiweddarach ac eto ni yn ôl i ddechrau o’r dechrau gyda mwy o ansicrwydd, mwy o adolygiadau, mwy o ymgynghoriadau, a’r hyn y mae’r gêm ei angen fwyaf ar hyn o bryd yw sefydlogrwydd.”
Wrth gyfeirio at ei gyn-glwb Celtic Warriors – wnaeth ddirwyn i ben yn 2004 ar ôl i glybiau Pen-y-bont a Phontypridd gyfuno – dywedodd “fe ddigwyddodd hynny dros benwythnos, bron a bod, ac er pa mor boenus oedd e o leiaf oedd e ‘di gorffen ac fe gafodd penderfyniad ei wneud.”
Mae pob un o’r rhanbarthau wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater ar hyn o bryd.