Yn ôl Mr Davies, fe wnaeth e gwrdd â’i wraig drwy asiantaeth ar-lein yn 2020 – roedd ganddyn nhw berthynas o bell. Fe briodon nhw ym mis Awst 2021.
Trefnodd Mr Davies i’w wraig adael am Wlad Pwyl, ac yna i’r DU yn 2022. Dywedodd wrth y gwrandawiad fod yr heddlu’n “hynod gefnogol” yn ystod yr amser hwn.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Davies ei fod wedi’i lorio wedi iddo dderbyn papurau camymddwyn yn ddiweddarach y flwyddyn honno, gan achosi i’w briodas chwalu.
Dychwelodd gwraig Mr Davies i Wcráin a dyw e ddim wedi ei gweld ers hynny. Yn ôl yr uwch-arolygydd fe achosodd hyn iddo fynd yn “ansefydlog yn emosiynol”.
Wrth gael ei holi gan Mr Boyle KC, dywedodd Mr Davies ei fod ers hynny wedi cael therapi i ddelio â’i bryder ac wedi ailbriodi.
“Roedd angen i mi ailwerthuso fy hun a’r penderfyniadau roeddwn i wedi’u gwneud,” meddai.
Os caiff yr honiadau eu profi, byddai’n gyfystyr â thorri safonau proffesiynol.