Mae ffans tîm pêl-droed Casnewydd nawr yn cael gwers hanes wrth wisgo crys oddi cartref newydd y clwb.
Mae’r crys yn streipiau coch a gwyn, fel crysau Athletic Club Bilbao, er mwyn cofio am gysylltiad rhwng ardal Casnewydd a Gwlad y Basg.
Ac ar y crys mae enwau 36 o blant a ddaeth i fyw mewn cartref yng Nghaerllion, ger Casnewydd yn 1937, er mwyn dianc oddi wrth Ryfel Cartref Sbaen.
“‘Naeth y Rhyfel Cartref ddechrau yn 1936, ac erbyn 1937 roedd y sefyllfa yng Ngwlad y Basg yn ddyrys iawn,” meddai Dr Sian Edwards o Brifysgol Caerdydd.
Er mwyn achub bywydau plant, cafodd rhai eu hanfon dramor i ffwrdd o’r ymladd.
“Daeth tua 4,000 i Brydain, ac ym mis Gorffennaf 1937, cyrhaeddon nhw Gymru. Roedd pedwar cartref yng Nghymru gydag un yng Nghaerllion, ac fe ddaeth 36 ohonyn nhw i hwnna.
“Er mwyn eu hachub nhw oedd e. Yn aml iawn roedd eu teuluoedd nhw wedi brwydro yn erbyn Franco, a nifer o’r plant wedi colli rhieni.”