Felly, o ble daw’r chwaraewyr sydd yng ngharfan criced Yr Almaen?
“Mae tua 80% o’r merched yn byw yn Yr Almaen, a thua 20% yn byw ym Mhrydain, sydd efo rhieni neu nain a thaid Almaenaidd – mae ‘na lot o Almaenwyr yn Llundain!
“Mae ‘na gynghrair yn Munich, Regensburg, Berlin a Hamburg, ond dwi’n credu bod ‘na lai na 300 o ferched yn chwarae’r gêm yno.
“Dwi ‘di dechrau gweithio efo tîm y dynion hefyd ac mae ganddyn nhw dros 2,500 o chwaraewyr, ond mae tua 40% o’r tîm dynion yn byw ym Mhrydain.
“Mae’n fwy o sialens efo’r dynion, a dwi’n meddwl bod o’n haws i wella sefyllfa safle gêm y merched yn Yr Almaen, yn syml achos bod mwy o gystadleuaeth yn gêm y dynion.”