Felly beth sydd bellach i’w weld ym mhob tref?
“Yn Llandudno, ‘da ni ‘di dathlu darn o chwedloniaeth y dre, sef y geifr enwog, a’r geiriau ydi ‘Blew geifr, glaw a geir’. Yn Llanrwst, ‘da ni’n dathlu hanes y lle fel tref farchnad a’r gymuned agos yno.
“Homage i bosteri gigiau Dixieland ar y pier, sydd ym Mae Colwyn. Roedd ‘na fandiau mawr yn chwarae yna, fel the Dammed a Motörhead. Dwi ‘di cyflwyno geiriau Rhys fel poster gig.
“Y geiriau ar furlun Abergele ydi ‘Gwell crefft na golud’, o flaen yr olygfa o’r dref o gyfeiriad Llanddulas.
“Ar gyfer un Conwy, ‘nes i benderfynu gneud dathliad o’r symbolau sy’n eiconig i’r dref. Ac ar hen fapiau Conwy, mae gen ti’r archways drwy’r wal – Porth y Gogledd, Porth y Gorllewin… a gan fod hwn mewn drws siâp bwa, mae hwn fel y pumed porth, sef Porth y Llenwi, ac mae’r gwaith AR yn cymryd mantais o hynny hefyd.”