24.9 C
New York
Saturday, September 20, 2025

Buy now

spot_img

Ymdrechion yn parhau i reoli tân ar Fynydd Bodafon ym Môn


Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn ceisio rheoli tân mawr ar Fynydd Bodafon ym Môn dros nos.

Yn ôl llygad-dyst mae’r tân dal ynghyn fore Sadwrn.

Mewn datganiad fe ddywedodd y gwasanaeth “bod nifer o bobl wedi troi fyny yn yr ardal nos Wener a bod cerbydau’n rhwystro’r llwybrau i’r gwasanaethau brys”.

Ychwanegodd y datganiad eu bod yn annog y cyhoedd i gadw draw o’r ardal a pheidio parcio ar y ffyrdd ger y digwyddiad “fel y gall ein criwiau tân barhau i ddelio â’r tân”.

Yn y datganiad diweddaraf am hanner nos, nos Wener fe ychwanegodd y Gwasanaeth Tân bod ffyrdd ger yr ardal ar gau ac y bydd y criwiau tân yn bresennol am yr oriau nesaf.

Dywedodd llefarydd eu bod yn parhau i dderbyn llawer o alwadau am y digwyddiad, ac maen nhw’n annog pobl i beidio â ffonio 999 i roi gwybod am y digwyddiad eto gan eu bod eisoes yn bresennol ac yn ymwybodol o’r tân.



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles