Mae ymgyrch newydd wedi’i lansio i godi cofeb anferth i Dryweryn, a datblygu safle ar lan Llyn Celyn.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys codi cerflun efydd dros 20 troedfedd o daldra, wedi’i ddylunio gan y diweddar John Meirion Morris.
Y bwriad hefyd ydy adnewyddu’r Capel Coffa a chreu amffitheatr, yn ogystal â gosod mwynderau eraill.
I wireddu’r cynllun mae pwyllgor gwaith Cofiwn Dryweryn wedi’i sefydlu, sydd wedi cynnal trafodaethau “cadarnhaol iawn” gyda Dŵr Cymru o ran sicrhau’r Capel a’r tir, a hefyd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor – y cyn-aelod seneddol Elfyn Llwyd – bod gwaith ar droed i sicrhau arian grant i weithredu’r cynllun, ac mai’r bwriad yw agor yr ymgyrch codi arian i’r cyhoedd dros y misoedd nesaf.