Un man sydd wedi bod yn llawn bwrlwm drwy gydol yr wythnos yw tafarn Saith Seren yng nghanol y ddinas.
Dywedodd James Wynne, sy’n gweithio yno, fod yr Eisteddfod wedi “effeithio’n enfawr ar y dref – mae ‘di bod yn grêt cael yr Eisteddfod fyny ‘ma.
“Ma’ llawer mwy o bobl yn cerdded rownd y dref pob dydd.
“Maen nhw wedi ymestyn eu horiau agor yr wythnos hon er mwyn denu mwy o gwsmeriaid.
“Ni ‘di cael massive boost, ma’ llwyth o bobl ‘di dod mewn, mae ‘di neud gwahaniaeth massive i ni.
“Mae llawer o bobl yn dweud eu bod am ddod yn ôl ar ôl i’r Eisteddfod orffen ac mae hwnna yn massive i ni.
“Mae llawer o bobl yn meddwl am Wrecsam fel rhywle llai Cymraeg, ond mae’r Steddfod wedi rhoi hwb enfawr i bawb.”