21.2 C
New York
Monday, September 22, 2025

Buy now

spot_img

Yr hanes tu ôl i’ch gwyliau yn y garafán


Yn 1884, penderfynodd Dr William Gordon Stables i gomisiynu’r Bristol Wagon Works Company i adeiladu’r garafán hamdden gyntaf.

Erbyn haf 1885 roedd ‘y Wanderer’, fel y’i gelwid, wedi’i gorffen i safon foethus iawn.

Yn gwbl ragrithiol, tra’r oedd yr awdurdodau yn targedu teuluoedd fel y Bryans, roedd bonheddwyr cyfoethog yn prysur brynu carafanau hamdden crand. Tua diwedd y ganrif, daeth ceisio dod yn ‘gypsy-gentleman‘ – fel y cyfeiriwyd atynt bryd hynny – yn uchelgais ffasiynol.

Sefydlwyd The Caravan Club of Great Britain and Ireland yn 1907 mewn ymdrech i uno ynghyd y rhai oedd yn hoff o garafanio. Yn ysgrifennu ryw ddwy flynedd yn ddiweddarach roedd gohebydd The Llandudno Advertiser yn honni bod ‘gypsying‘ mewn carafán wedi datblygu’n weithgaredd poblogaidd tu hwnt.

Roedd rhaid disgwyl tan 1919 tan i’r garafán fasnachol gyntaf gael ei chyflwyno – carafán Eccles – lle’r oedd hi’n bosib ei thynnu tu ôl i gar. Mewn hysbyseb yn y Western Mail ym mis Medi 1920, nodwyd bod carafanau Eccles yn cael eu harddangos yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd, gan yr unig werthwyr yn ne Cymru: Garej Hill o dan berchnogaeth Percy M. T. Hill.

Roedd carafán Eccles gynnar yn costio o gwmpas £231, swm a oedd gyfystyr â dwy flynedd o gyflog i weithiwr medrus.



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles